Yn newydd ar gyfer 2020, tiwbio llawn adrenalin i lawr ein dyfroedd gwyllt byd-enwog o safon Olympaidd yng nghanol Bae Caerdydd. Bachwch eich teulu, eich ffrindiau a dewch i ymgymryd â'r her eithaf i lawr y dyfroedd gwyllt. Nid oes angen unrhyw brofiad dŵr gwyn blaenorol. Bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn dysgu popeth sydd i’w wybod ynglŷn â thiwbio i chi wrth eich cadw'n ddiogel. Mae hyder yn y dŵr yn hanfodol i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau yn sblasio, troelli a nofio. Dewch â digon o egni! Rydym yn addo y bydd hyn yn rhoi'r holl wefr a'r cyffro sydd eu hangen arnoch i'ch cadw'n gwenu am wythnosau!
Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.
Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch