Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn fod yn 12 oed neu'n hŷn.
Yn cynnwys troadau, troellau a phob math arall o gyffro, mae cwrs dŵr gwyn DGRhC yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy’n chwilio am antur ac mae’n ffordd wych o ymarfer eich sgiliau yn y dŵr! Gyda ni mae’r unig gyfle i Rafftio Dŵr Gwyn yn ninas Caerdydd!
Mae ein gweithgaredd Rafftio Dŵr Gwyn yn addas ar gyfer teuluoedd, partïon a grwpiau o ffrindiau fel ei gilydd! Mae lle i hyd at 6 o bobl mewn rafft, fodd bynnag, os yw eich grŵp yn fwy na 6, mae croeso i chi archebu nifer o rafftiau neu leoedd ar rafft.
Mae argaeledd ar ein calendr yn fyw, felly os nad yw dyddiad/amser penodol yn ymddangos fel un y gellir ei archebu, mae hyn oherwydd bod y sesiwn eisoes yn llawn neu nad ydym yn gweithredu'r gweithgaredd hwn ar y diwrnod rydych yn chwilio amdano.
Os nad ydych yn archebu pob un o'r 6 lle ar rafft, bydd cwsmeriaid eraill ar eich rafft gyda chi.
Rydym yn cyflenwi siwtiau gwlyb, esgidiau dŵr, helmedau a chymhorthion arnofio fel rhan o bris y gweithgaredd.
Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau DGRhC gydag Hyfforddwr' sydd i’w gweld yma
Beth sydd ei angen arnoch
Mae DGRhC yn darparu'r holl offer arbenigol arall sydd eu hangen i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn - e.e. switiau gwlyb, esgidiau dŵr, helmedau a chymhorthion arnofio.
Sesiwn 2 awr - gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch