Newydd ar gyfer gaeaf 2020! Cymerwch yr awenau ac arwain eich rafft eich hun i lawr ein dyfroedd gwyllt safon Olympaidd mewn rafftiau bach! O dan gyfarwyddyd ein harweinwyr sydd â chymwysterau rhyngwladol, rhowch gynnig ar yr her rafftio orau i chi a’ch teulu a’ch ffrindiau. Naill ai 2 neu 3 o bobl fesul rafft, dysgwch sut i badlo a llywio’r rafft cyn rhoi prawf ar y senarios dros y bwrdd a mynd ymlaen at goncro’r dyfroedd gwyllt!
Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.
Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch