Mae caiacio aer neu gychod pâr yn brofiad dŵr gwyn poblogaidd sy'n cynnig hwyl wefreiddiol i ddechreuwyr a phadlwyr profiadol. Yn weithgaredd tandem llawn adrenalin, mae cyrsiau ‘cychod pâr’ dŵr gwyn yn gosod grwpiau o anturiaethwyr mewn caiacau aer cyfforddus i ddau berson ac yn eu hanfon i lawr y dyfroedd gwyllt lle maen nhw’n gallu mordwyo trwy rwystrau a chwympiadau dan oruchwyliaeth arbenigol un o’n hyfforddwyr.
Mae safleoedd padlwyr yn y dull newydd hwn o gaiacio dau berson, yn sownd rhwng ochrau'r rafft, yn dwyn ci poeth i gof rhywsut – a dyna darddiad llysenw’r caiacio aer. Yn weithgaredd sydd yr un mor gyffrous ar gyfer grwpiau llai a phartïon mwy, caiacio dŵr gwyn yw'r cwrs perffaith ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi rhoi cynnig ar rafftio dŵr gwyn traddodiadol ac sydd am gael profiad o rywbeth newydd.
Yn cyfuno'r agweddau gorau ar gaiacio a rafftio, mae gwersi caiacio aer yn ffordd wych o brofi eich sgiliau cyfathrebu a'ch galluoedd mordwyo dŵr gwyn!
Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.
Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch
Mae 'duckies', fel mae caiacau aer wedi’u llysenwi mewn rhai ardaloedd, wedi trawsnewid byd campau dŵr yn llwyr. Yn debyg o ran dyluniad i gaiacau caled, mae caiacau aer yn cael eu gwneud o ffabrigau cadarn megis PVC. Fel arfer, mae digon o le mewn ‘ducky’ ar gyfer dau neu dri pherson, sy'n eu gwneud yn berffaith ar gyfer caiacio tandem.
Mae nodweddion gyrru caiac aer yr un fath â'r rhai traddodiadol - hyd yn oed o ran y badl sy'n cael ei ddefnyddio. Yn ogystal â bod yn sefydlog ac yn hawdd ei symud, mae ‘duckies’ yn ddewis poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr gwyn gan eu bod yn hunanddisbyddu ac yn hawdd dringo ynddynt eto os byddwch yn dymchwel.
Fel arbenigwyr chwaraeon dŵr, rydym yn cael ein holi’n aml o ran pa un sydd orau – caiac aer neu un â chragen galed. Y gwir yw bod y ddau fath yn wych, ac mae'r un rydych chi'n mwynhau fwyaf yn dibynnu ar eich dewisiadau padlo.
Mae caiacau caled yn dal yn fwy cadarn o ran perfformiad a gwydnwch, ac mae caiacau aer yn well o ran bod yn ysgafn ac yn haws eu trin. Yng nghyd-destun caiacio dŵr gwyn, mae gan ‘duckies’ y fantais o reolaeth well a'r cysur ychwanegol sy'n dod gyda hynny.
Mae caiacio dau berson hefyd yn aml yn cael ei wneud mewn caiacau aer, gan eu bod yn cynnig profiad mwy heriol wrth weithio mewn tandem i fordwyo’r dyfroedd gwyllt. Mae cwrs caiacio aer yn gyfuniad gwych o hwyl ac antur wefreiddiol.
Mae caiacio aer (‘hotdogging’) yn ddiogel iawn – mwy na thebyg yn fwy diogel nag y byddech wedi dyfalu! Mae'r risg o gael twll yn isel, a chyda thair siambr aer ar wahân ym mhob ‘ducky’, a hyd yn oed os bydd dŵr yn gollwng, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd gennych fwy na digon o gymorth i'ch helpu i gyrraedd y lan yn ddiogel.
Y cyfan sydd ei angen arnoch er mwyn aros yn ddiogel pan fyddwch yn caiacio aer mewn dŵr gwyn (‘hotdogging’) yw synnwyr cyffredin a thywysydd profiadol. A hwythau’n sefydlog ac yn hawdd eu symud, ni ddylai caiacau aer achosi unrhyw drafferth ar y dŵr.
Defnyddir caiacau aer hamdden yn aml mewn gwersi caiacio dŵr gwyn. Yn berffaith ar gyfer pob math o ddŵr, nid oes angen unrhyw brofiad padlo ar y math hwn o ‘ducky’ ac mae'n cael ei lywio gan dechneg badlo sy'n hawdd ei dysgu. Oherwydd ei led sylweddol, sy'n ei gwneud yn ddewis perffaith ar gyfer dechreuwyr, mae'r caiac aer hamdden hefyd yn ddewis sefydlog ar gyfer cwrs caiacio dau berson lle mae rheolaeth yn hanfodol.
Wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer ‘hotdogging’ dŵr gwyn, mae gan gaiacau aer siâp arbennig iawn. Yn fyrrach ac yn fwy llydan na ‘duckies’ traddodiadol, maent yn cael eu teilwra ar gyfer gwersi caiacio dŵr gwyn uwch lle mae angen y sefydlogrwydd mwyaf posibl i fordwyo dyfroedd gwyllt a chwympiadau mwy heriol. Gan ffafrio mordwyo medrus dros gyflymder, mae ‘hotdogging’ dŵr gwyn hefyd yn gofyn am dechneg badlo benodol, felly rydym yn argymell dewis cwrs pwrpasol os ydych am brofi’r wefr a chadw’n ddiogel.
Ni waeth beth yw eich profiad blaenorol gyda chwaraeon dŵr, gall datblygu rhai sgiliau caiacio dŵr gwyn mewn amgylchedd diogel wneud byd o wahaniaeth wrth fordwyo'r dyfroedd gwyllt. Mae ein gwersi caiacio aer pwrpasol yn gyfle perffaith i gael hwyl a pherffeithio eich techneg padlo tandem trwy gyfres o sesiynau caiacio dau berson.
Un sgil benodol iawn sy'n ofynnol ar gyfer ‘hotdogging’ dŵr gwyn yw'r gallu i fynd i mewn ac allan o'ch ‘ducky’ yn ddiogel. Mae caiacau aer yn sefydlog iawn, felly gydag ychydig o ymarfer byddwch yn gallu dringo i mewn i un yn ddiymdrech, beth bynnag yw eich oedran neu’ch sgiliau rafftio. Yn ystod cwrs caiacio dŵr gwyn DGRhC, byddwch yn dysgu sut i hopian ar ‘ducky’ ac oddi arno o'r lan a'r dŵr, fel y byddwch yn barod ar gyfer unrhyw sefyllfa.