Mae ein profiad cerdded ceunentydd de Cymru yn weithgaredd cyffrous oddi ar y safle yng Nghwm Nedd hyfryd, sy’n cynnwys sgrialu i fyny ac i lawr llwybrau afonydd a nentydd. Ymhen dim, byddwch yn troedio ceunentydd dyfnion ac yn neidio i blymbyllau.
Mae cerdded ceunentydd yn weithgaredd grŵp poblogaidd ar gyfer penwythnosau cyn priodas yng Nghaerdydd, sy’n cynnig cyfle gwych i wneud ymarfer corff heriol a chyffrous. Mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau grŵp ysgolion a cholegau yn ogystal â diwrnodau corfforaethol adeiladu tîm.
Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.
Cwrdd ger Craig Dinas - Sesiwn oddeutu 4 awr - gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch