Ffeindiwch eich mwnci mewnol (neu heriwch eich mwncis bach!) a choncro rhaffau uchel yr Antur Awyr. Os byddwch chi’n dewis dringo i uchelfannau’r dirwedd ddur a phren eich hun, neu’n prynu’r profiad yn anrheg i rywun arall – mae’r cwrs hwn yn taflu ei gysgod dros gwrs dŵr gwyn DGRhC a bydd yn siŵr o greu argraff!
Trechwch rwystrau llawn hwyl gan gynnwys Pont Burma, y Siglen Fwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib.
Cyrhaeddwch frig ein wal ddringo gyffrous. Bydd yr amryw linellau a lefelau anhawster yn ymarfer eich ystwythder. Drwy weithio fel tîm byddwch yn siŵr o gyrraedd y brig!
Nid oes angen unrhyw offer na phrofiad, y cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw ysbryd anturus a chwant hwyl! Mae cyfyngiadau taldra a phwysau'n cyfyngu'r gweithgaredd hwn i daldra isaf o 132cm (ond gall plant 107cm a thalach gymryd rhan os byddant yng nghwmni oedolyn, uchafswm o 2 blentyn fesul oedolyn), a phwysau uchaf o 18 stôn. Rhaid i gyfranogwyr yn y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.
Mae pob sesiwn yn cynnwys un cylch llawn o'r cwrs Antur Awyr ynghyd â thuag 1 awr ar y wal ddringo ac mae'n costio £20 y pen (ar ôl i'r holl gyfranogwyr gwblhau eu lap antur awyr byddant yn mynd draw at y wal ddringo).
Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma
1 Cylch o’r cwrs Rhaffau Uchel a thuag 1 awr ar y wal ddringo. BYDD HYD Y SESIWN YN AMRYWIO YN DIBYNNU AR YR AMSER A GYMERIR GAN GYFRANOGWR I GWBLHAU'R CYLCH.