Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn amgylchedd dŵr cysgodol, mae’r cwrs undydd ymarferol hwn yn cyflwyno’r prif sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu’n ddiogel ac i ddelio ag argyfyngau cyffredin.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys theori a chynllunio cyffredinol, yn ogystal â sut i achub o’r lan, ac achub o gwch. Mae’r cwrs hwn yn agored i badlwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, mewn unrhyw grefft neu ddisgyblaeth, gyda dewis i achub o’r lan neu o gwch, gan roi’r cyfle a’r gefnogaeth i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch.
1 Diwrnod (09:00 - 17:00)
£110 y pen