Mae Padlfyrddio (SUP) i Ferched wedi dod i Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig dosbarthiadau bychain a fydd yn dangos i chi sut i sefyll a phadlo gan ddefnyddio un o'r dulliau teithio gorau oll.
Mae Padlfyrddio yn weithgaredd gwych ac yn ffordd o fwynhau gyda’ch ffrindiau a theithio’r dyfroedd llyfn. Rydym yn cynnig yr holl hyfforddiant a’r offer ar gyfer y cwrs. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch archebu lle ar un o'n sesiynau Padlfyrddio Cymdeithasol!
Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma.
2 awr o 18:00 tan 20:00 (4 nos Fercher yn olynol)