Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sydd eisiau bod yn Dywyswyr Rafftio. Prif ddiben y cwrs yw datblygu sgiliau craidd ac ennill gwybodaeth i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fe tywysydd llwyddiannus.
Sgiliau Corfforol - Technegau rafftio, hyfforddi a rheoli criw, technegau argyfwng a gwaith achub.
Gwybodaeth Ddamcaniaethol ac Ymarferol - Cyfarpar (mathau a defnydd), gweithdrefnau diogelwch ac argyfwng, hydroleg yr afon, arweinyddiaeth ac arwyddion.
Hyfforddiant:
Asesu:
Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Asesu: Ar gael ar gais.
Hyfforddiant: £180 y pen
Asesu: Ar gael ar gais
Ddim yn cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer cymhwyso Tywyswyr, USD$40, Arweinydd Teithiau USD$70, Hyfforddwyr USD$130.
Mae’r holl ddyfarniadau gan y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn ddilys am dair blynedd pan gânt eu cefnogi gan dystysgrif cymorth cyntaf ddilys.
Mae'r gweithdy pum diwrnod yn addas i'r rhai sydd am ddod yn dywyswyr rafftio dŵr gwyn neu'r rhai sydd am gymryd cam nesaf cymhwyster y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys dyfarniad diogelwch 3 WRT-PRO ar gyfer achub a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Yn ystod y cwrs byddwn yn ymdrin â phob maes tywys gyda'r posibilrwydd o asesiad y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn dibynnu ar eich lefel a'ch profiad llyfr log.
Mae'r gost yn cynnwys yr holl ffioedd ardystio achub 3, ond nid yw'n cynnwys ffi ardystio’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol o USD$40.
£390 - Nid yw’n cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer cymhwyso Tywyswyr, USD$40
Yn ogystal â Gweithdy'r Tywyswyr Rafftio, gellir gweld gwybodaeth am y cwrs WRT-Pro yn Technegydd Achub Whitewater - Cwrs Hyfforddi Proffesiynol (WRT-PRO) | Caerdydd - De Cymru (ciww.com)