ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Gall person â sgiliau Cymorth Cyntaf reoli digwyddiad nes bod nyrs, doctor neu ambiwlans yn cyrraedd a gall fodloni gofynion iechyd a diogelwch tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Cwrs tri diwrnod gyda modiwlau yw hwn. Mae’r cwrs yn ddilys am dair blynedd ar gyfer anghenion y gweithle ac anghenion statudol. Mae’r cwrs safonol wedi’i ddylunio i gyflwyno dull systematig o gymorth cyntaf ar gyfer rheoli pobl ag anafiadau. Mae’r cwrs yn gyfuniad o ddysgu, ymarfer ac enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn.  Mae’r cwrs yn cynnwys sut mae’r corff yn gweithio, yn enwedig y galon, yr ysgyfaint a’r llwybr anadlu; cydnabod y gwahaniaethau rhwng iach, sâl ac wedi anafu; cofnodi mesurau sylfaenol ar gyfer gweithrediadau allweddol y corff; mae’n cyflwyno system i ymdopi â phob digwyddiad mor ddiogel â phosibl; yn trafod maes llafur yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf yn y gwaith, yn unol â rheoliadau 1981 a 1997 a chanllawiau adfywio Ewrop a’r DU.

Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gwaith wedi'i ardystio am dair blynedd. Noder bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn “argymell yn gryf i bobl sydd â sgiliau cymorth cyntaf ymgymryd â hyfforddiant gloywi bob blwyddyn o fewn tair blynedd o ennill tystysgrif Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith neu Gymorth Cyntaf yn y Gwaith”.

Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.

 

Beth sydd ei angen arnoch

 

  • Rydym yn creu senarios awyr agored lle bo hynny'n bosibl.  Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd

 

Gofynion

 

  • 16+ oed

 

Amserlen

 

Cwrs tridiwrnod

Gwybodaeth Allweddol
Profiad
Dim
Oedran
O 16 oed
Hyd y Cwrs
3 diwrnod
Pris
£300 y pen