Os ydych am hyfforddi canŵio a chaiacio ar ddŵr cysgodol, mae’r hyfforddiant hwn dros ddeuddydd yn canolbwyntio ar sut i ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol i badlwyr canŵ a chaiacau mewn amgylchedd o ddŵr cysgodol. Bydd y cwrs yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd dŵr cysgodol.
Er mwyn dod yn Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr Cysgodol) rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n un ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny.
Hyfforddiant:
Asesu:
Tystiolaeth o weithrediad safonau gofynnol:
Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)
Hyfforddiant: £200 y pern
Asesiad: £150 y pen