TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS: Cymerwch y trên o Gaerdydd Ganolog i’r Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr gan adael y trên yng ngorsaf drenau Cogan. Yna cerddwch dros bont Pont y Werin i Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Ewch ar fws gwasanaeth 7 neu 9 yng Nghaerdydd. Maent yn teithio’n rheolaidd o ganol y ddinas a Bae Caerdydd. Am amserlenni ewch i www.traveline-cymru.info
MEWN CAR: Dilynwch arwyddion brown Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yr A4232.
Llywiwr Lloeren: CF11 0SY
Caiff gweithgareddau eu cynnal boed law neu hindda. Byddwn yn gohirio rhai gweithgareddau os bydd y tywydd yn ddifrifol, er enghraifft, os bu eira neu rew mawr, neu wyntoedd cryfion.
Na, byddwch yn gwisgo cymorth hynofedd (rhag ofn i chi ddisgyn i mewn i’r dŵr). Byddwch yn cael eich sblasio (sy’n ychwanegu at yr hwyl!)
Oes, mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer ein holl weithgareddau. Gwiriwch argaeledd ac archebwch ar-lein trwy ein botwm "BOOK NOW".
Mae’r gweithgareddau yn addas ar gyfer plant 6 oed a hŷn. Ar gyfer y Don Dan Do, ni chewch fod yn llai na 107cm o daldra. Ar gyfer yr Antur Awyr, ni chewch fod yn llai na 132cm o daldra (107cm a mwy yng nghwmni oedolyn) ac ni ddylech bwyso mwy ag 18 stôn. Ar gyfer y Wal Ddringo, ni chewch fod yn llai 107cm o daldra.
Byddwn ni’n darparu'r holl offer sydd ei angen arnoch i gymryd rhan yn eich gweithgaredd gan gynnwys:
- Gwisgoedd gwlyb
- Bŵts gwisgoedd gwlyb
- Cymorth hynofedd
- Helmed
Bydd angen i chi ddod â’r canlynol:
- Dillad nofio i’w gwisgo o dan y siwt wlyb (pan fydd hi’n oer iawn efallai yr hoffech ddod ag eitem o ddillad nad yw wedi’i wneud o gotwm i’w wisgo o dan y siwt wlyb e.e. siaced denau neu fest.
- Tywel
- Darn £1 ar gyfer y locer
Mae gennym ystafelloedd newid, cawodydd a loceri ar y safle (bydd angen darn £1 arnoch) I sicrhau fod eich gweithgaredd yn dechrau’n brydlon, gofalwch eich bod yn cyrraedd 15 munud cyn yr amser dechrau er mwyn cofrestru yn y dderbynfa a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol.
Rydyn ni yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, sydd ond 10 munud yn y car o ganol y ddinas.