Mae’r Wobr Dewis Teithwyr yn dathlu atyniadau sy'n cynnig profiadau gwych cyson i deithwyr ledled y byd. Ac mae DGRhC newydd gael ei enwi yn y 10% uchaf o atyniadau ledled y byd, yn seiliedig ar ein hadolygiadau a'n sgoriau Tripadvisor o'r 12 mis diwethaf.
Yn dod gan lwyfan teithio mwyaf y byd, sy'n helpu cannoedd o filiynau o deithwyr i greu teithiau o fis i fis, mae hyn yn newyddion go enfawr i'r tîm yma yng Nghaerdydd. Mae Tripadvisor yn cynnwys dros 878 miliwn o adolygiadau o atyniadau ledled y byd, felly mae ennill y Wobr Dewis Teithwyr mewn blwyddyn arbennig o heriol wir wedi gwneud i ni sylweddoli bod profiad pob ymwelydd yn cael effaith eang.
"Ry’n ni wrth ein bodd o fod wedi cael effaith mor gadarnhaol o ran cynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwych, boddhad a phrofiad diogel a phleserus i bawb a ymwelodd â'r ganolfan ym Mae Caerdydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Wobr Dewis Teithwyr yn deyrnged haeddiannol i'n tîm ymroddedig ac yn dyst i'r amser y maent yn ei neilltuo i wella pob agwedd ar gyfnod ein hymwelwyr gyda ni", meddai Rheolwr DGRhC, Ben Longhurst.
Gwnaeth Kanika Soni, Prif Swyddog Masnachol Tripadvisor, longyfarch holl enillwyr Gwobrau Dewis Teithwyr 2021 yn ddiweddar, gan ddweud; "Rwy'n gwybod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol dros ben i fusnesau twristiaeth. Yr hyn sydd wedi gwneud argraff arnaf fi yw sut mae busnesau wedi addasu i'r heriau hyn, gweithredu mesurau glendid newydd, cyflwyno canllawiau cadw pellter cymdeithasol, a defnyddio technoleg i flaenoriaethu diogelwch gwesteion. Mae’r Gwobrau Dewis Teithwyr yn tynnu sylw at lefydd sy'n gyson ragorol - sy’n cynnig profiadau o ansawdd dro ar ôl tro hyd yn oed wrth ddelio â disgwyliadau cwsmeriaid newidiol a ffyrdd newydd o weithio. Yn seiliedig ar flwyddyn lawn o adolygiadau gan gwsmeriaid, mae'r wobr hon yn dyst i'r gwasanaeth a'r profiad gwych a gynigiwyd gennych yng nghanol pandemig."
I weld ein holl adolygiadau Tripadvisor a'n gweithgareddau mwyaf poblogaidd, ewch i Broffil Tripadvisor DGRhC. A beth am gadw lle ar un o'n gweithgareddau neu gyrsiau a mwynhau un o atyniadau gorau’r byd Tripadvisor!