Wrth i’r gwyliau ysgol ddirwyn i ben, dyma’r amser i gofio am yr holl sbort ry’n ni wedi’i gael dros yr haf. Mae llawer ohonoch wedi ymweld â ni i fwynhau un o’n gweithgareddau cyffrous, ac mae bob amser yn wych gweld eich adborth di-duedd ar TripAdvisor.
Darllenwch rai o’r adolygiadau gan y bobl sydd wedi mwynhau’r gweithgareddau yn DGRhC dros yr haf, o Rafftio i’r Teulu i’r Ton Dan Do, yr Antur Awyr, Padlfyrddio ac, wrth gwrs, Rafftio Dŵr Gwyn.
Mae’r profiad arbennig y mae cymaint wedi’i fwynhau yn dyst i agwedd hwylus a phroffesiynol ein hyfforddwyr, sydd bob amser yn mynd yr ail filltir i sicrhau eich bod yn cael amser penigamp – beth bynnag yw eich oedran, profiad neu allu nofio. Mae’r holl offer yma ar gyfer ein gweithgareddau, ac rydym yn cynnal sesiynau diogelwch cyn pob gweithgaredd.
Os nad ydym wedi cwrdd eto, ry’n ni’n gobeithio eich gweld chi’n fuan!
If you have been inspired to try something new or have a fun filled family activity day out, then please call 029 2082 9970 to book any of our activities or team building sessions.